![PISA logo](/uk/content/dam/one-dot-com/one-dot-com/uk/microsites/pisa25/pisa-logo.png)
Y Tîm
Mae tîm mawr, amlddisgyblaethol yn gweithio i gynnal PISA 2025, gyda staff profiadol o dri sefydliad yn cydweithio i sicrhau bod ysgolion a disgyblion yn cael y profiad gorau posibl, yn ogystal â chefnogi prosesau casglu data ac adrodd trylwyr ac o ansawdd uchel. Pearson fydd yn arwain y gwaith o gasglu data mewn ysgolion, UCL fydd yn arwain y gwaith dadansoddi ac adrodd ar gyfer Cymru a Gogledd Iwerddon ac OUCEA fydd yn arwain y gwaith dadansoddi ac adrodd ar gyfer Lloegr.
Pearson: Yn cyflwyno PISA 2025 mewn Ysgolion
![Photo of Grace Grima](/uk/content/dam/one-dot-com/one-dot-com/uk/microsites/pisa25/grace-grimab.jpg)
Dr Grace Grima
Rheolwr Cenedlaethol Rhaglen PISA25
Cyfarwyddwr Ymchwil, Pearson
Rôl: Bydd Grace yn arwain y tîm craidd yn Pearson, yn cynnal PISA mewn ysgolion. Bydd hefyd yn cydweithio â'r Prif Ymchwilwyr ar y Cyd o Goleg Prifysgol Llundain (UCL) a Chanolfan Prifysgol Rhydychen ar gyfer Asesu Addysg (OUCEA), sy'n gyfrifol am y gwaith dadansoddi, adrodd a dosbarthu. Grace fydd â'r cyfrifoldeb cyffredinol am gynnal PISA25 yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gan sicrhau y caiff holl dasgau PISA eu cyflawni ar amser ac yn unol â'r safonau rhyngwladol a nodwyd.
Cefndir: Yn ei rôl yn Pearson, mae Grace yn gyfrifol am astudiaethau asesu rhyngwladol a hi yw Rheolwr Cenedlaethol Rhaglen PISA22 yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ar hyn o bryd. Mae'n arwain astudiaethau asesu eraill yn ei rôl fel Cydlynydd Ymchwil Cenedlaethol ar gyfer PIRLS21/TIMSS23 yn Lloegr. Mae Grace hefyd yn gyfrifol ar lefel strategol am waith ymchwil Pearson i gymwysterau academaidd a galwedigaethol a gwasanaethau dysgu mewn ysgolion, gan gynnwys astudiaethau cyfredol ar wyddoniaeth, mathemateg a darllen. Yn flaenorol, yn ei rôl fel Cyfarwyddwr Cyffredinol y Weinyddiaeth Addysg a Chyflogaeth yn Malta, roedd Grace yn gyfrifol am gyflwyno a gweithredu'r holl brojectau asesu rhyngwladol, gan gynnwys PISA, ac am ddiweddaru fframwaith y cwricwlwm cenedlaethol. Cyn hynny, yn Seland Newydd, bu'n gweithio ar Broject Monitro Addysgol Cenedlaethol (NEMP). Dechreuodd Grace ei gyrfa fel athrawes, hyfforddwr athrawon a phrif swyddog ymchwil ym mwrdd arholi Prifysgol Malta.
![Photo of Sarah Turner](/uk/content/dam/one-dot-com/one-dot-com/uk/microsites/pisa25/sarah-turner.jpg)
Sarah Turner
Dirprwy Reolwr Cenedlaethol y Rhaglen, Cydlynydd Addasu a Rheolwr Codio
Uwch-ymchwilydd, Pearson
Rôl: Bydd Sarah yn cefnogi Rheolwr Cenedlaethol y Rhaglen yn ei rôl fel Dirprwy Reolwr Cenedlaethol y Rhaglen. Bydd yn cydlynu'r gwaith o addasu deunyddiau ac yn rheoli'r gwaith codio.
Cefndir: Mae gan Sarah dros 15 mlynedd o brofiad yn Pearson o gyflwyno ystod o gymwysterau ac offerynnau asesu lle mae llawer yn y fantol yn weithredol o'r dechrau i'r diwedd. Roedd hyn yn cynnwys pum mlynedd yn arwain y tîm TGAU Astudiaethau Crefyddol a oedd yn gyfrifol am farcio dros 250,000 o sgriptiau arholiad yn gywir a rheoli tîm o 1000 o farcwyr yn ystod y gyfres arholiadau pob haf. Bu Sarah yn rheoli'r gwaith codio ar gyfer PIRLS21 a TIMSS23.
![Kate Miller](/uk/content/dam/one-dot-com/one-dot-com/uk/microsites/TIMMS/2023/Kate-Miller.jpg)
Kate Miller
Rheolwr Project Arweiniol ar gyfer PISA25
Rheolwr Project, Pearson
Rôl: Rheolwr Project, yn gyfrifol am reoli elfennau'r contract y mae angen eu cyflawni.
Cefndir: Rheolwr project cymwys ac ymarferydd PRINCE2 effeithiol â thros chwe blynedd o brofiad yn gweithio ar gontractau i'r Adran Addysg. Rheolodd Kate TIMSS19 a PIRLS21 yn llwyddiannus (o 2019) ac mae'n gweithio ar PISA22 ar hyn o bryd (Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon) a TIMSS23 yn Lloegr.
![Mish Mohan](/uk/content/dam/one-dot-com/one-dot-com/uk/microsites/TIMMS/2023/Mish-Mohan.jpg)
Mish Mohan
Rheolwr Data a Samplu Cenedlaethol PISA25
Dadansoddwr Data, Pearson
Rôl: Bydd Mish yn goruchwylio gweithgareddau sy'n ymwneud â systemau cyflawni asesiadau, samplu a thrin data.
Cefndir: Mae gan Mish dros 15 mlynedd o brofiad gyda Pearson, mewn rolau Gwasanaethau Cwsmeriaid, Gweithrediadau a datblygu TG. Roedd yn Rheolwr Data ar gyfer PIRLS16 a TIMSS19, gan sicrhau strategaeth samplu, ffrâm samplu a threfniadau cyflwyno data llwyddiannus. Mae'n gweithio ar PISA22 ar hyn o bryd (Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon) a TIMSS23 yn Lloegr.
![Photo of Alistair Hooper](/uk/content/dam/one-dot-com/one-dot-com/uk/microsites/pisa25/Alistair-Hooper.jpg)
Alistair Hooper
Rheolwr Recriwtio a Dirprwy Reolwr Data PISA25
Uwch-ymchwilydd, Pearson
Rôl: Bydd Alistair yn cydlynu gweithgareddau sy'n ymwneud â recriwtio a chadw ysgolion a bydd yn cefnogi'r gwaith rheoli data.
Cefndir: Mae Alistair wedi bod yn gweithio i dîm Ymchwil Cymwysterau ac Asesu Pearson ers chwe blynedd, gan ganolbwyntio ar astudiaethau rhyngwladol dros y pedair blynedd diwethaf. Ef yw Rheolwr Recriwtio TIMSS23, ac roedd yn Rheolwr Data ar gyfer PIRLS21, a bu'n cefnogi'r gwaith recriwtio ar gyfer PISA22 yng Ngogledd Iwerddon. Mae wedi gweithio mewn sawl agwedd wahanol ar astudiaethau rhyngwladol, gan gynnwys samplu, rheoli data, cyfieithu/addasu, recriwtio a chadw ysgolion, recriwtio Cydlynwyr Ysgol a Gweinyddwyr y Prawf, yn ogystal â hyfforddi a chodio.
![Photo of Irene Custodio](/uk/content/dam/one-dot-com/one-dot-com/uk/microsites/pisa25/irene-custodio.jpg)
Irene Custodio
Arbenigwr Dysgu mewn Byd Digidol (Codio) PISA25
Arweinydd Dylunio Asesiadau Digidol, Pearson
Rôl: Bydd Irene yn arwain yr elfennau Codio ar gyfer Dysgu mewn Byd Digidol.
Cefndir: Irene Custodio yw Arweinydd Digidol y tîm Dylunio Asesiadau yn Pearson UK ac mae'n arwain tîm bach o arbenigwyr technegol sy'n canolbwyntio ar ddylunio a datblygu asesiadau digidol dilys ac addas at y diben. Mae gan Irene dros 15 mlynedd o brofiad ym maes ymchwil addysgol, dylunio asesiadau a datblygu asesiadau digidol lle mae llawer yn y fantol. Bu Irene yn gweithio ar addasiadau a chyfieithiadau ar gyfer PISA22. Mae Irene yn arwain gwaith ymchwil yn Pearson sy'n canolbwyntio ar greu datrysiadau asesu a fydd yn rhoi mynediad teg a chyfartal i bob dysgwr.
![Photo of Lucian Lanteri](/uk/content/dam/one-dot-com/one-dot-com/uk/microsites/pisa25/lucian-lanteri.jpg)
Lucian Lanteri
Rheolwr Gweinyddwyr Prawf ar gyfer PISA25
Arweinydd Cyflawni, Pearson
Rôl: Lucian sy'n rheoli'r gwaith o recriwtio, hyfforddi a rheoli Gweinyddwyr Prawf.
Cefndir: Mae gan Lucian dros 19 mlynedd o brofiad yn Pearson o gyflwyno ac asesu cymwysterau risg uchel, gan gynnwys fel Pennaeth Asesu pynciau dyniaethau TAG a TGAU yn Pearson am naw mlynedd. Mae gan Lucian brofiad o recriwtio, hyfforddi a rheoli Gweinyddwyr Prawf ar gyfer PISA22 yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, TIMSS23 (Lloegr), ac ar gyfer PIRLS26 yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar hyn o bryd.
![Photo of Beth Ryan](/uk/content/dam/one-dot-com/one-dot-com/uk/microsites/pisa25/beth-ryan.jpeg)
Beth Ryan
Arweinydd Cymorth Cyflawni PISA25, Pearson
Rôl: Bu Beth yn cefnogi'r gwaith o gynnal Prawf Maes PISA2025 a bydd yn parhau i gefnogi ysgolion wrth gynnal Prif Astudiaeth PISA25 yn llwyddiannus.
Cefndir: Mae Beth wedi gweithio yn Pearson ers tair blynedd, fel Rheolwr Ansawdd a Dadansoddwr Gweithdrefnau Mewnol yn flaenorol gan oruchwylio sawl tîm a oedd yn cyflawni asesiadau a chymwysterau risg uchel. Mae'n arbenigo mewn gwella prosesau ac mae wedi bod yn gweithio i symleiddio proses PISA ar gyfer Cydlynwyr Ysgol ers symud i'r Tîm Asesiadau Rhyngwladol ar Raddfa Fawr ym mis Hydref 2023.
![Photo of Adrian Brown](/uk/content/dam/region-core/uk/pearson-college/images/icons/escape-studios/S-People-Outline-Black.gif)
Adrian Brown
Goruchwyliwr Recriwtio Gweinyddwyr y Prawf a Chodwyr ar gyfer PISA25
Pennaeth Rheoli Swyddogion Cyswllt, Pearson
Rôl: Bydd Adrian yn cydlynu gweithgareddau sy'n ymwneud â recriwtio Gweinyddwyr y Prawf a Chodwyr.
Cefndir: Mae Adrian yn weithiwr proffesiynol profiadol sy'n gyfrifol am recriwtio Gweinyddwyr y Prawf a Chodwyr a gweithgareddau cysylltiedig, yn ogystal â sicrhau bod gan Pearson yr adnoddau i gyflawni gweithgareddau marcio. Mae hefyd wedi goruchwylio'r trefniadau recriwtio blaenorol ar gyfer astudiaethau rhyngwladol, gan gynnwys PIRLS21 (Prif Astudiaeth), PISA22 (Prif Astudiaeth), a TIMSS23 (Prawf Maes a Phrif Astudiaeth).
![Photo of Jon Wood](/uk/content/dam/region-core/uk/pearson-college/images/icons/escape-studios/S-People-Outline-Black.gif)
Jon Wood
Cyfarwyddwr Prosesu PISA25
Cyfarwyddwr Prosesu Cymwysterau, Pearson
Rôl: Bydd Jon yn gyfrifol am ddarparu'r deunyddiau profi a'r holl weithgareddau allweddu yn ddiogel.
Cefndir: Mae Jon wedi bod yn Gyfarwyddwr Prosesu Cymwysterau ar safle Hellaby ers 2015, ac mae'n goruchwylio gweithrediadau a phrosesau rheoli staff. Mae gweithrediadau Hellaby yn sganio ac yn prosesu dros 10 miliwn o ganlyniadau bob blwyddyn ar gyfer Cymwysterau Cyffredinol, Cymwysterau Galwedigaethol a Chymwysterau Rhyngwladol. Mae gweithrediadau Hellaby wedi prosesu dogfennaeth yn ddiogel ac wedi cyflwyno dogfennaeth yn llwyddiannus mewn perthynas â PIRLS16, TIMSS19, PIRLS21, a PISA22 (Prawf Maes) a TIMSS23 (Prawf Maes) hefyd.
![Photo of Simon Abrams](/uk/content/dam/region-core/uk/pearson-college/images/icons/escape-studios/S-People-Outline-Black.gif)
Simon Abrams
Cydlynydd TG (TGCh) PISA25
Rheolwr Rhanbarthol Cymorth wrth y Ddesg, Pearson
Rôl: Bydd Simon yn goruchwylio'r systemau TG sydd eu hangen i gynnal PISA25.
Cefndir: Mae gan Simon dros 14 blynedd o brofiad yn gweithio i ddarparu cymorth technegol ac atebion TG arloesol a diogel yn Pearson. Ef yw Rheolwr Rhanbarthol cymorth wrth y ddesg yn Pearson ac mae'n rheoli nifer o dimau cymorth trydydd llinell mewn rhannau amrywiol o'r DU. Mae wedi rheoli'r gwaith o ddatblygu systemau TG ar gyfer TIMSS23 a PISA22 a'u rhoi ar waith.
UCL ac OUCEA: Adrodd ar ganfyddiadau PISA 2025
![Photo of Jennie Ingram](/uk/content/dam/one-dot-com/one-dot-com/uk/microsites/pisa25/jenni-ingram.jpg)
Jennie Ingram (OUCEA)
Prif Ymchwilydd ar y Cyd
Rôl: Jenni fydd Prif Ymchwilydd yr adroddiadau ymchwil a bydd yn goruchwylio ansawdd y gwaith dadansoddi data, gan ganolbwyntio ar Loegr. Bydd yn mynychu cyfarfodydd rhyngwladol, hyfforddiant a gweminarau perthnasol gyda Rheolwr Cenedlaethol y Rhaglen. Yn ogystal, bydd yn aelod o'r Bwrdd Gweithredol a'r Bwrdd Cynghori ar Ymchwil fel Prif Ymchwilydd ar y Cyd. Bydd cydgysylltu â chydweithwyr yn UCL yn rhan ganolog o'i rôl er mwyn gwneud y defnydd gorau o arbenigedd a sgiliau a sicrhau allbynnau o ansawdd uchel i Loegr.
Cefndir: Mae Jenni Ingram wedi bod yn gweithio ar PISA yn ddamcaniaethol ac yn empirig, gan gynnwys fel aelod o'r Grŵp Arbenigwyr Mathemateg ar gyfer PISA 2022 lle roedd yn rhan o'r gwaith o ddylunio'r fframwaith mathemateg ar gyfer yr asesiad. Mae hefyd yn arwain y gwaith o ddadansoddi data PISA 2022 ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ac mae wedi arwain y gwaith o ddadansoddi a llunio adroddiad cenedlaethol ar gyfer Astudiaeth Fideo TALIS yn Lloegr yn y gorffennol hefyd. Mae ganddi rwydwaith rhyngwladol helaeth drwy ei gwaith ar PISA 2022 ac yn ehangach drwy ei gwaith mewn ymchwil i addysg fathemateg yn rhyngwladol.
![Photo of Mary Richardson](/uk/content/dam/one-dot-com/one-dot-com/uk/microsites/pisa25/mary-richardson.jpg)
Mary Richardson (UCL)
Prif Ymchwilydd ar y Cyd
Rôl: Mary fydd Prif Ymchwilydd ar y Cyd yr adroddiadau ymchwil a bydd yn goruchwylio ansawdd y gwaith dadansoddi data a dosbarthu, gan ganolbwyntio ar Gymru a Gogledd Iwerddon. Bydd yn mynychu cyfarfodydd rhyngwladol, hyfforddiant a gweminarau perthnasol gyda Rheolwr Cenedlaethol y Rhaglen yn ôl yr angen, a bydd yn aelod o'r Bwrdd Gweithredol a'r Bwrdd Cynghori ar Ymchwil. Bydd cydgysylltu â chydweithwyr yn OUCEA yn rhan ganolog o'i rôl er mwyn gwneud y defnydd gorau o arbenigedd a sgiliau a sicrhau allbynnau o ansawdd uchel i Gymru a Gogledd Iwerddon.
Cefndir: Mae Mary Richardson yn Athro Asesu Addysg yn Athrofa Addysg UCL yn Llundain. Mae gan Mary gryn brofiad o arwain projectau ymchwil rhyngwladol ym maes addysg ac mae wedi bod yn Brif Ymchwilydd ar y Cyd ar gyfer y ddau adroddiad TIMSS diwethaf (2019 a 2023) yn Lloegr. Mae Mary yn addysgu ar y cwrs Meistr mewn Asesu yn UCL ac mae'n goruchwylio myfyrwyr doethurol sydd â diddordeb mewn athroniaeth asesu, moeseg profi a chanfyddiad ymgeiswyr o brofiadau profi. Mae ei llyfr diweddar (2022), Rebuilding Public Confidence in Assessment, ar gael yn UCL Press, ac mae'n ymwneud ar hyn o bryd â gwaith ymchwil sy'n canolbwyntio ar ganfyddiadau o'r ffordd y mae Deallusrwydd Artiffisial yn rhyngweithio â'r rhai sy'n sefyll profion iaith, a dad-drefedigaethu systemau asesu.
![](/uk/content/dam/one-dot-com/one-dot-com/uk/microsites/pisa25/gemma-moss-ucl.jpg)
Gemma Moss (UCL)
Prif Ymchwilydd ar y Cyd
Rôl: Gemma fydd Prif Ymchwilydd ar y Cyd yr adroddiadau ymchwil a bydd yn goruchwylio ansawdd y gwaith dadansoddi data a dosbarthu, gan ganolbwyntio ar Gymru a Gogledd Iwerddon. Mae'n cynnig pwynt cyswllt ychwanegol â chydweithwyr yn OUCEA ac arbenigedd eang ym maes llythrennedd.
Cefndir: Mae Gemma yn ymchwilydd profiadol ag arbenigedd penodol ym maes technegau ymchwil ansoddol a chynlluniau ymchwil dulliau cymysg. Mae wedi cyfarwyddo amrywiaeth o brojectau ymchwil ar gyfer y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a'r Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd yn llwyddiannus, gan gynnwys cynnal astudiaethau achos ethnograffig aml-safle a chyfuno dulliau meintiol ac ansoddol mewn ffyrdd arloesol. Ymunodd â Bwrdd Saesneg yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd yn 2009, ac yn 2008/9 cymerodd ran fel ymgynghorydd arweiniol yn yr Agenda Rhywedd, sef menter polisi o fewn yr Adran a ddatblygodd bartneriaethau newydd rhwng cymunedau ymchwil, ymarferwyr a llunwyr polisïau er mwyn gwella cyrhaeddiad bechgyn a hyrwyddo tegwch rhwng y rhywiau. Mae'n aelod o Grŵp Cynghori Arbenigol yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol ar hyn o bryd, a'r Bwrdd Cynghori ar gyfer Canolfan Llythrennedd a Chyfiawnder Cymdeithasol Y Brifysgol Agored.
![Photo of Stuart Cadwallader](/uk/content/dam/one-dot-com/one-dot-com/uk/microsites/pisa25/stuart-cadwallader.jpg)
Stuart Cadwallader (OUCEA)
Adrodd a Dosbarthu
Rôl: Bydd Stuart yn gyfrifol am adroddiad Lloegr ac am y cynllun dosbarthu.
Cefndir: Mae Stuart yn Ddarlithydd Adrannol mewn Asesu Addysg yn yr Adran Addysg, Prifysgol Rhydychen. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cwmpasu sawl agwedd ar asesu addysg, gan gynnwys safonau arholi, asesu sgiliau ymarferol, defnyddio technoleg gynorthwyol i asesu, asesiadau rhyngwladol ar raddfa fawr a digideiddio asesiadau. Cyn mis Ionawr 2022, Stuart oedd Cyfarwyddwr Cyswllt Ymchwil yn Ofqual, lle helpodd arwain rhaglen ymchwil i gefnogi'r gwaith o reoleiddio arholiadau a chymwysterau yn Lloegr.
![Photo of Iain Barnes](/uk/content/dam/one-dot-com/one-dot-com/uk/microsites/pisa25/iain-barnes.jpg)
Iain Barnes (UCL)
Adrodd a Dosbarthu
Rôl: Bydd Iain yn arwain y gwaith o ysgrifennu adroddiadau ar gyfer Cymru a Gogledd Iwerddon ar y cyd â Christina Swensson. Bydd arbenigedd y ddau yn sicrhau adroddiadau o ansawdd uchel ynghyd â sylfaen gref o ddulliau ymchwil addysgol, gwaith dadansoddi meintiol ac adrodd ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd. Byddant yn gyfrifol am arwain strwythur yr adroddiadau a chytuno ar hyn â'r Bwrdd Gweithredol. Byddant yn creu cynllun ar gyfer ysgrifennu'r adroddiadau, ac yn ei ddiwygio wedi hynny, ac yn sicrhau y caiff pob terfyn amser ei fodloni.
Cefndir: Mae gan Dr Iain Barnes brofiad helaeth ym maes ymchwil addysgol ac ysgrifennu ar lefel genedlaethol dros y 18 mlynedd diwethaf. Rhwng ei ddwy rôl fel pennaeth, bu'n gweithio fel rhan o grŵp ymchwil a pholisi'r Coleg Cenedlaethol, lle bu'n ymgysylltu ag ystod eang o brojectau ymchwil cenedlaethol mewn perthynas ag arweinyddiaeth mewn ysgolion, gan awduro neu gyd-awduro sawl cyhoeddiad. Mae gan Iain brofiad o waith dadansoddi meintiol ac ysgrifennu adroddiadau cenedlaethol hefyd. Yn 2016 ac yn 2020, roedd Iain yn un o gyd-awduron yr adroddiadau cenedlaethol ar gyfer TIMSS yn Lloegr, gan gefnogi'r gwaith ysgrifennu a dadansoddi. Bydd yn cyflawni'r un rôl ar gyfer adroddiad 2023.
![](/uk/content/dam/one-dot-com/one-dot-com/uk/microsites/pisa25/christina-swensson.jpeg)
Christina Swensson (UCL)
Adrodd a Dosbarthu
Rôl: Bydd Christina yn arwain y gwaith o ysgrifennu adroddiadau ar gyfer Cymru a Gogledd Iwerddon ar y cyd ag Iain Barnes. Bydd arbenigedd y ddau yn sicrhau adroddiadau o ansawdd uchel ynghyd â sylfaen gref o ddulliau ymchwil addysgol, gwaith dadansoddi meintiol ac adrodd ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd. Byddant yn gyfrifol am arwain strwythur yr adroddiadau a chytuno ar hyn â'r Bwrdd Gweithredol. Byddant yn creu cynllun ar gyfer ysgrifennu'r adroddiadau, ac yn ei ddiwygio wedi hynny, ac yn sicrhau y caiff pob terfyn amser ei fodloni.
Cefndir: Mae Christina Swensson yn ddadansoddwr profiadol â chefndir academaidd mewn economeg ac 20 mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes ymchwil addysgol yn Athrofa Addysg ac Adran Addysg UCL. Mae ganddi ystod eang o sgiliau dadansoddol a phroffesiynol, ac mae'n arbenigo mewn cyfleu gwaith dadansoddi a chanfyddiadau ymchwil cymhleth yn effeithiol i'r rhai sy'n llunio polisïau; defnyddio gwaith dadansoddi ac ymchwil i ddatblygu, monitro a gwerthuso polisïau'r llywodraeth; a rheoli a chyflwyno adroddiadau dadansoddol hygyrch a hawdd eu defnyddio sy'n dwyn ynghyd gyfraniadau gan ystadegwyr, ymchwilwyr cymdeithasol ac economegwyr.
![](/uk/content/dam/one-dot-com/one-dot-com/uk/microsites/pisa25/jamie-stiff.png)
Jamie Stiff (OUCEA)
Dadansoddwr data
Rôl: Bydd Jamie yn gwneud cryn dipyn o'r gwaith dadansoddi ar gyfer y timau yn OUCEA ac, ar y cyd â chydweithwyr yn UCL, bydd yn rhannu cod ac yn cefnogi'r Prif Ymchwilydd ar y Cyd yn OUCEA er mwyn trafod a datblygu cynllun strategol ar gyfer y gwaith dadansoddi ym mhob gwlad, gan ganolbwyntio ar Loegr yn benodol.
Cefndir: Ymunodd Jamie ag OUCEA yn 2017 er mwyn helpu i gynnal PIRLS16, a chynhyrchodd yr holl ddadansoddiadau meintiol, graffiau ac esboniadau ysgrifenedig o ganlyniadau ar gyfer Adroddiad Cenedlaethol PIRLS 2016 ar gyfer Lloegr. Bu'n gweithio ar gyflwyno adroddiadau cenedlaethol ar gyfer PIRLS21, mae'n gweithio ar PISA22, ac mae'n astudio ar gyfer DPhil mewn Addysg. Mae ei waith ymchwil yn canolbwyntio ar brosesau modelu ystadegol ar gyfer anhawster eitemau yn TIMSS.
![](/uk/content/dam/one-dot-com/one-dot-com/uk/microsites/pisa25/david-wilkinson-ucl.jpg)
David Wilkinson (UCL)
Arweinydd dadansoddi data
Rôl: Bydd David yn arwain y gwaith dadansoddi ar gyfer y timau yn UCL ac, ar y cyd â chydweithwyr yn OUCEA, bydd yn rhannu cod, yn trafod ac yn datblygu cynllun strategol ar gyfer dadansoddi ym mhob gwlad, ac yna bydd yn gyfrifol am Gymru a Gogledd Iwerddon.
Cefndir: Mae gan David brofiad helaeth o ddadansoddi mewn lleoliadau addysg a gwyddor gymdeithasol, gan gynnwys projectau ar raddfa fawr yn llunio setiau data astudiaethau Carfan y Mileniwm er mwyn archwilio perthnasoedd rhwng oedran a'r farchnad lafur; effaith cyflwyno'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a'i gynyddu wedi hynny; a gwerthuso ymyriadau addysgol mewn ysgolion. Mae ei waith wedi cael ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, adrannau llywodraeth y DU: yr Adran Gwaith a Phensiynau, yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau, y Swyddfa Ystadegau Gwladol; y Comisiwn Ewropeaidd a Banc y Byd.
Grŵp Cynghori
![Photo of Jo-ann Baird](/uk/content/dam/one-dot-com/one-dot-com/uk/microsites/pisa25/jo-ann-baird.jpg)
Jo-Anne Baird
Jo-Anne yw Cyfarwyddwr Canolfan Prifysgol Rhydychen ar gyfer Asesu Addysg. Mae wedi bod yn Bennaeth yr Adran Addysg yn Rhydychen, yn Gynghorydd Sefydlog i Bwyllgor Dethol Tŷ'r Cyffredin ar Addysg, yn aelod o Grŵp Cynghori Sefydlog Ofqual ar Safonau, yn Gadeirydd Grŵp Arbenigol y Prawf Cyfeirio Cenedlaethol, ac yn aelod o Grŵp Cwricwlwm ac Asesu Llywodraeth Cymru a Grŵp Adolygu Annibynnol Llywodraeth yr Alban. Bu Jo-Anne yn gweithio mewn rolau academaidd yn yr Athrofa Addysg (Llundain) ac ym Mhrifysgol Bryste. Yn 2019, dyfarnwyd Gradd er Anrhydedd iddi gan Brifysgol Bergen.
![Photo of Sibel Erduran](/uk/content/dam/one-dot-com/one-dot-com/uk/microsites/pisa25/sibel-erduran.jpg)
Sibel Erduran
Mae Sibel Eduran yn Athro Addysg Gwyddoniaeth a Chymrawd yng Ngholeg St Cross ym Mhrifysgol Rhydychen, y Deyrnas Unedig. Hi yw Llywydd y Gymdeithas Ymchwil Addysg Gwyddoniaeth Ewropeaidd; Prif Olygydd Science & Education ac mae'n un o Olygyddion yr International Journal of Science. Mae ei phrofiad gwaith yn cynnwys rolau yn UDA ac Iwerddon yn ogystal â'r DU. Mae ei diddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar natur gwyddoniaeth mewn addysg gwyddoniaeth, ac mae ganddi ddiddordeb brwd mewn cynllunio adnoddau cwricwlwm ac asesu a gaiff eu llywio gan ymchwil. Mae ei gwaith ar ymresymu wedi cael ei gydnabod yn rhyngwladol drwy wobrau gan NARST ac EASE. Mae ei llyfrau yn cynnwys Reconceptualizing the Nature of Science in Science Education: Scientific Knowledge, Practices and Other Family Categories (Springer), Argumentation in Chemistry Education: Research, Policy and Practice (y Gymdeithas Gemeg Frenhinol) a Transforming Teacher Education through the Epistemic Core of Chemistry: Empirical Evidence and Practical Strategies (Springer).
![Photo of Michael Reiss](/uk/content/dam/one-dot-com/one-dot-com/uk/microsites/pisa25/michael-reiss.jpg)
Michael Reiss
Mae Michael yn Athro Addysg Gwyddoniaeth yng Nghyfadran Addysg a Chymdeithas UCL, yn Athro Gwadd Anrhydeddus yn y Coleg Milfeddygaeth Brenhinol, yn Gymrawd Anrhydeddus o Gymdeithas Wyddoniaeth Prydain, yn Gymrawd o Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol, yn aelod o Gyngor Biofoeseg Nuffield, yn Llywydd y Gymdeithas Gwyddoniaeth a Chrefydd Ryngwladol ac yn Llywydd y Gymdeithas Addysg Gwyddoniaeth. Ar ôl PhD ac ymchwil ôl-ddoethurol mewn bioleg esblygol, hyfforddodd fel athro uwchradd a bu'n addysgu mewn ysgolion am bum mlynedd. Yna dychwelodd i addysg uwch, gan dreulio chwe blynedd ym maes hyfforddi athrawon uwchradd a chwe blynedd ym maes hyfforddi athrawon cynradd cyn ymgymryd â'i swydd bresennol yn 2001.
![Photo of Allen Thurston](/uk/content/dam/one-dot-com/one-dot-com/uk/microsites/pisa25/allen-thurston.jpg)
Allen Thurston
Mae diddordebau ymchwil yr Athro Thurston yn cynnwys ymgymryd â chynlluniau ymchwil arbrofol ar gyfer treialon addysgol mewn ysgolion. Yn ddamcaniaethol, mae ei waith yn canolbwyntio ar safbwyntiau addysgegol mewn perthynas â defnyddio dysgu cydweithredol, tiwtora cyfoedion a gwella llythrennedd i fyfyrwyr 3-18 oed sy'n byw mewn cymunedau â lefel uchel o dlodi (gan gynnwys projectau presennol yn Lloegr, Colombia, Chile, Lesotho a De Affrica). Ef yw Prif Olygydd yr International Journal of Educational Research Open (IJEDRO). Mae'n aelod o Fwrdd Golygyddol cyfnodolion Technology, Pedagogy and Education, ac Educational Psychology. Yn 2013, dyfarnwyd gwobr Grŵp Diddordeb Arbennig Dysgu Cydweithredol y Gymdeithas Ymchwil Addysgol Americanaidd (AERA) iddo am Gyfraniad Ymchwil Rhagorol ym maes Dysgu Cydweithredol. Bu'n Ysgrifennydd/Trysorydd Grŵp Diddordeb Arbennig Dysgu Cydweithredol AERA o fis Ebrill 2014 tan fis Ebrill 2017 ac ef yw Cadeirydd y Grŵp Diddordeb Arbennig ar hyn o bryd. Bu'n aelod o Uned Addysg y Panel Asesu ar gyfer gweithdrefn asesu Fframwaith Gwerthuso Ymchwil y Deyrnas Unedig yn 2021.
![Photo of Rhian Barrance](/uk/content/dam/one-dot-com/one-dot-com/uk/microsites/pisa25/rhian-barrance.png)
Rhian Barrance
Darlithydd Addysg ym Mhrifysgol Caerdydd yw Rhian. Mae ganddi brofiad helaeth o ymchwil addysgol, yn enwedig ym meysydd asesu addysgol a diwygio cymwysterau. Cyn ymuno â Phrifysgol Caerdydd, cwblhaodd ei doethuriaeth ym Mhrifysgol Queen's Belfast a bu'n gweithio fel Cymrawd Ymchwil ar broject rhwng Prifysgol Rhydychen a Phrifysgol Queen's Belfast yn ymchwilio i natur ddisgwyliadwy arholiadau Tystysgrifau Gadael yng Ngweriniaeth Iwerddon.
Mae ganddi ddealltwriaeth ddofn o dirwedd ymchwil a pholisi addysgol Cymru. Hi yw Cyfarwyddwr Astudiaeth Aml-garfan Addysg WISERD (Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru), sef astudiaeth ymchwil hydredol o blant ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hefyd wedi arwain dau broject ar ran Comisiynydd Plant Cymru, gan gynnwys adolygiad tystiolaeth o hawliau dynol plant yng Nghymru. Mae wedi ymgymryd â nifer o rolau cynghorol yng Nghymru, gan gynnwys bod yn aelod o Grŵp Cynghori ar Ymchwil Cymwysterau Cymru. Mae'n siaradwr Cymraeg rhugl.
Arbenigwyr y Cwricwlwm
![Photo of Wilton Lodge](/uk/content/dam/one-dot-com/one-dot-com/uk/microsites/pisa25/wilton-lodge.jpg)
Wilton Lodge, Cynnwys Gwyddoniaeth a'r Cwricwlwm
Mae Wilton wedi bod yn rhan o addysg STEM dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae wedi gweithio mewn ysgolion uwchradd amrywiol yn Lloegr a'r Caribî. Mae'n uwch-gymrawd addysgu ar hyn o bryd, ac ef yw Arweinydd y cwrs TAR Cemeg yn Athrofa Addysg Coleg Prifysgol Llundain. Mae ganddo radd Baglor mewn Gwyddoniaeth o Brifysgol India’r Gorllewin, a gradd MA a PhD o Athrofa Addysg Coleg Prifysgol Llundain. Mae Wilton wedi bod yn rhan o nifer o grwpiau cynghori ar wyddoniaeth ac mae'n rhan o dîm ymchwil TIMSS23 ar hyn o bryd.
![Photo of Sinead Harmey](/uk/content/dam/one-dot-com/one-dot-com/uk/microsites/pisa25/sinead-harmey.jpg)
Sinead Harmey, Cynnwys Darllen a'r Cwricwlwm
Cefndir: Mae gan Sinéad gefndir mewn addysgu cynradd a Ph.D mewn Darllen a Llythrennedd mewn Plentyndod Cynnar a Chanol. Mae ei hymchwil yn seiliedig ar (a) ei diddordebau mewn ysgrifennu cynnar a chymorth ar gyfer dysgu llythrennedd yn y blynyddoedd cynnar a (b) ei diddordebau mewn cefnogi ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth a rôl cyfnewid gwybodaeth yn hyn o beth, gyda ffocws penodol ar fethodolegau adolygu. Mae'r llinellau ymholi hyn wedi arwain ei hymchwil, ei harferion addysgu, a'i hymgysylltiad â systemau addysg yn Ewrop a'r Unol Daleithiau. Mae wedi cyd-awduro'r adolygiad meta-ddadansoddol diweddaraf o Adfer Darllen ac mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi yn Reading Research Quarterly, The Journal of Early Childhood Literacy, The Journal of Writing Research, a The Journal of Education for Students Placed at Risk. Mae wedi cydweithio'n llwyddiannus mewn grwpiau ymchwil cyfunol ar ymchwil llythrennedd wedi'i hariannu ar gyfer y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, y Sefydliad Gwaddol Addysgol, y Sefydliad Addysg a Hyfforddiant ac Ymddiriedolaeth Froebel. Mae'n gyd-olygydd Literacy, sef cyfnodolyn gan Gymdeithas Llythrennedd y Deyrnas Unedig.
![Photo of Eirini Geraniou](/uk/content/dam/one-dot-com/one-dot-com/uk/microsites/pisa25/eirini-geraniou.jpg)
Eirini Geraniou, Cynnwys Mathemateg a'r Cwricwlwm
Athro Cyswllt Addysg Fathemateg yn yr Athrofa Addysg, sef Cyfadran Addysg a Chymdeithas UCL, yw Dr Eirini Geraniou. Mae ei diddordebau ymchwil yn ymwneud â defnyddio technoleg at ddiben addysgu a dysgu mathemateg. Mae ei gwaith diweddaraf wedi cynnwys cysyniadoli cymhwysedd digidol mathemategol ac mae'n gyd-olygydd y llyfr Springer, Mathematical Competencies in the Digital Era. Bu'n rhan o brojectau ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol niferus ar y defnydd o dechnoleg mewn addysg fathemateg, gan gynnwys dylunio meini prawf asesu ar gyfer arolygu sgiliau cymhwysedd digidol a rhaglennu athrawon. Mae wedi dylunio ac arwain modiwl meistr anghydamserol ar-lein yn UCL ar dechnoleg ar gyfer dysgu mathemategol a chwrs DPP ar-lein ar “Key Ideas in Mentoring Mathematics Teachers” a gynhaliwyd gan y llwyfan Futurelearn (https://www.futurelearn.com/courses/key-ideas-in-mentoring-mathematics-teachers/2). Mae wedi gweithio ar raglenni Addysg Gychwynnol i Athrawon ers dros 15 mlynedd ac mae'n aelod gweithredol o'r Gymdeithas Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil mewn Addysg Fathemateg (ERME).
![Photo of Rebecca Enyon](/uk/content/dam/one-dot-com/one-dot-com/uk/microsites/pisa25/rebecca-enyon.gif)
Rebecca Eynon, Dysgu mewn Byd Digidol
Mae Rebecca Eynon yn Athro Addysg, y Rhyngrwyd a Chymdeithas ym Mhrifysgol Rhydychen. Yn y Brifysgol, mae wedi'i phenodi ar y cyd gan yr Adran Addysg a Sefydliad Rhyngrwyd Rhydychen (OII). Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar y croestoriadau rhwng addysg, technoleg ac anghydraddoldebau. Cyn ymuno â Phrifysgol Rhydychen yn 2005, bu Rebecca yn gweithio fel Cymrawd Ôl-Ddoethurol gyda'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, yn Adran Gymdeithaseg Prifysgol y Ddinas, ac fel Cymrawd Ymchwil yn Adran Addysg Prifysgol Birmingham.
![Photo of Judith Hillier](/uk/content/dam/one-dot-com/one-dot-com/uk/microsites/pisa25/judith-hillier.jpg)
Judith Hillier, Cynnwys Gwyddoniaeth a'r Cwricwlwm
Mae Judith Hillier wedi bod yn Adran Addysg Prifysgol Rhydychen ers 2007, lle mae'n Ddirprwy Gyfarwyddwr y Cwrs TAR. Mae diddordebau ymchwil Judith yn ymwneud ag addysgu athrawon gwyddoniaeth, recriwtio a chadw athrawon ffiseg, rôl iaith wrth ddatblygu esboniadau gwyddonol yn yr ystafell ddosbarth, a rhywedd ac amrywiaeth mewn addysg STEM. Yn 2021, dyfarnwyd Medal Marie Curie-Sklodowska iddi gan yr Athrofa Ffiseg am ei chyfraniad sylweddol at gefnogi menywod mewn ffiseg drwy ei gwaith gyda'r Gynhadledd i Fenywod Israddedig mewn Ffiseg, ac at addysgu athrawon ffiseg.