
I Ysgolion
Beth yw PISA?

Y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) yw'r astudiaeth ryngwladol fwyaf yn y byd o systemau addysg ac fe'i datblygwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD). Bob tair blynedd, mae PISA yn profi disgyblion 15 oed o bob cwr o'r byd mewn gwyddoniaeth, mathemateg a darllen. Drwy gymryd rhan yn PISA25, mae eich ysgol yn cyfrannu at wella addysg yn y DU a thu hwnt. Gellir cael rhagor o wybodaeth ar wefan yr OECD ar gyfer PISA.
Beth yw Prawf Maes PISA?
Caiff astudiaeth PISA ei chynnal mewn dau gam, sef prawf maes a phrif astudiaeth, a chaiff ysgolion gwahanol eu dewis ar gyfer pob cam. Mae'r prawf maes (Mawrth 2024) yn cynnwys sampl lai o ysgolion a disgyblion na'r brif astudiaeth (Hydref 2025). Mae'r prawf maes yn helpu i sicrhau bod asesiadau, holiaduron a phrosesau PISA 2025 yn gweithio cystal â phosibl cyn cynnal y brif astudiaeth – felly mae'n rhan bwysig a dylanwadol iawn o'r astudiaeth, ac rydym yn gwerthfawrogi eich cyfraniad yn fawr.
Beth sydd angen i ni ei wneud?
Mae asesiad PISA yn cynnwys:
Asesiad ar sgrin i ddisgyblion
Yn asesu cymhwysedd mewn gwyddoniaeth, darllen a mathemateg.
Holiadur cefndir i ddisgyblion
Yn holi am eu nodweddion, eu hysgol a'u profiadau dysgu.
Holiadur i ysgolion i'r penaethiaid
Yn holi am gyd-destun eu hysgol, y staff a'r disgyblion.
Beth yw manteision PISA?
Mae cymryd rhan yn PISA yn cynnig amrywiaeth o fanteision i ysgolion, i ddisgyblion ac i addysg yn y DU. Byddwch yn gwneud y canlynol:
• Cyfrannu at astudiaeth sy'n ein helpu i ddeall ein system addysg yn well
• Rhoi profiad i ddisgyblion o gynrychioli eu gwlad mewn astudiaeth ryngwladol a chynnig y cyfle iddynt ymarfer y sgiliau sy'n gysylltiedig ag asesiadau allanol mewn asesiad ar-lein diddorol ac arloesol ‘risg isel’.
Er mwyn diolch i chi am roi o'ch amser, byddwch yn cael tâl gweinyddu yn uniongyrchol i'ch ysgol.

Cysylltu â ni
Os bydd gennych unrhyw ymholiadau am unrhyw agwedd ar yr astudiaeth, mae croeso i chi gysylltu â thîm cymorth PISA25.