![PISA logo](/uk/content/dam/one-dot-com/one-dot-com/uk/microsites/pisa25/pisa-logo.png)
I Rieni
Beth yw PISA?
![](/uk/content/dam/one-dot-com/one-dot-com/uk/microsites/pisa25/for-parents.jpg)
Y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) yw'r astudiaeth ryngwladol fwyaf yn y byd o systemau addysg ac fe'i datblygwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD). Bob tair blynedd, mae PISA yn profi disgyblion 15 oed o bob cwr o'r byd mewn gwyddoniaeth, mathemateg a darllen. Drwy gymryd rhan yn PISA25, mae eich plentyn yn cyfrannu at wella addysg yn y DU a thu hwnt. Gellir cael rhagor o wybodaeth ar wefan yr OECD ar gyfer PISA.
Beth sy'n digwydd fel rhan o PISA?
I'ch plentyn, mae asesiad PISA yn cynnwys cymryd rhan yn y canlynol:
• Asesiad rhyngweithiol ar y sgrin sy'n ymdrin â gwyddoniaeth, darllen a mathemateg
• Holiadur cefndir yn holi am ei fywyd, ei ysgol a'i brofiadau dysgu.
Nid oes angen paratoi na gwneud unrhyw waith ymlaen llaw er mwyn i'ch plentyn allu cwblhau'r asesiad.
![](/uk/content/dam/one-dot-com/one-dot-com/uk/microsites/pisa25/AL1141803.jpg)
Beth yw manteision PISA?
Bydd eich plentyn yn cyfrannu at astudiaeth sy'n ein helpu i ddeall ein system addysg yn well.
Bydd eich plentyn yn cael profiad o gynrychioli Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon mewn astudiaeth ryngwladol.
Bydd eich plentyn yn gallu ymarfer y sgiliau sy'n gysylltiedig ag asesiadau allanol drwy asesiad ar-lein arloesol ‘risg isel’.