![PISA logo](/uk/content/dam/one-dot-com/one-dot-com/uk/microsites/pisa25/pisa-logo.png)
Y camau nesaf i Gydlynwyr Ysgol
Y camau nesaf i Gydlynydd PISA yr Ysgol
Bwriedir i'r 10 Cam i Lwyddiant a gaiff eu hamlinellu yma helpu Cydlynydd PISA penodedig eich Ysgol (aelod o staff yr ysgol) i gynnal asesiad PISA yn effeithiol.
Os bydd gennych unrhyw ymholiadau am unrhyw agwedd ar yr astudiaeth, mae croeso i chi gysylltu â Thîm Cymorth PISA.
Llinell amser ar gyfer Prif Astudiaeth PISA25 Ysgolion yng Nghymru a Gogledd Iwerddon
Cam 1: Cyswllt cychwynnol
Bydd Tîm Cymorth PISA yn gwneud cyswllt cychwynnol â'ch ysgol drwy lythyr ac e-bost croeso a anfonir at Bennaeth a Swyddog(ion) Arholiadau'r ysgol. Bydd yr ohebiaeth yn gofyn i chi gymryd rhan yn yr astudiaeth ac yn neilltuo dyddiad prawf PISA i'r ysgol. Dylech roi gwybod i'ch Uwch-dîm Arwain a'ch llywodraethwyr fod yr ysgol wedi cael ei dewis. Bydd aelod o Dîm Cymorth PISA yn ffonio'r ysgol i drafod yr astudiaeth ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Cam 2: Cofrestru a chynllunio
I gofrestru ar gyfer yr astudiaeth, cwblhewch y Ffurflen Gofrestru ar-lein ar gyfer PISA25 y ceir dolen iddi yn eich e-bost croeso, gan gadarnhau'r manylion allweddol, gan gynnwys gwybodaeth gyswllt yr ysgol a pha mor addas yw'r dyddiad a gynigiwyd ar gyfer y prawf yn y llythyr croeso. Os nad yw'r dyddiad yn addas, dylech awgrymu dau ddyddiad arall yn ystod cyfnod y profion pan fyddwch yn llenwi'r Ffurflen Gofrestru. Bydd Tîm Cymorth PISA yna'n cadarnhau'r dyddiad ar gyfer eich prawf.
Dylech wedyn drefnu ystafell(oedd) TG addas gyda digon o le ar gyfer cyfrifiaduron er mwyn i 40 o ddisgyblion gwblhau'r asesiad ar yr un pryd. Gall disgyblion eistedd wrth ymyl ei gilydd. Gallai'r rhain fod yn ystafelloedd TG a/neu'n ystafelloedd dosbarth â gliniadur/cyfrifiadur personol i bob disgybl. Os bydd angen gliniaduron ychwanegol arnoch, cysylltwch â thîm cymorth PISA.
Cam 3: Rhestr disgyblion
Er mwyn gallu dewis sampl o ddisgyblion i gymryd rhan yn asesiad PISA, bydd angen rhestr arnom o'r holl ddisgyblion 15 oed (Blwyddyn 10 ac 11) sydd yn yr ysgol. Rydym yn darparu ystod dyddiad geni a chyfarwyddiadau i'w dilyn, y gall timau gweinyddu ysgolion eu defnyddio er mwyn cael y wybodaeth y gofynnir amdani o system yr ysgol. Anfonir dogfen at Gydlynydd PISA yr Ysgol i'w llenwi â'r data perthnasol. Rhestr Disgyblion yw'r enw ar y ddogfen hon. Byddwn yn gofyn i Gydlynydd yr Ysgol weithio gyda'r Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig i ddarparu unrhyw wybodaeth berthnasol am Anghenion Addysgol Arbennig hefyd. Dylid cyflwyno'r ddogfen Rhestr Disgyblion i Dîm Cymorth PISA mewn ffordd ddiogel.
Cam 4: Dewis disgyblion
Bydd Tîm Cymorth PISA yn defnyddio'r Rhestr Disgyblion a ddarparwyd gennych i ddewis 40 o ddisgyblion ar hap i gymryd rhan yn PISA. Bydd yr ysgol yn cael y rhestr o ddisgyblion mewn dogfen o'r enw Ffurflen Tracio Disgyblion. Cadarnhewch fod y wybodaeth yn gywir, os bydd gan unrhyw un o'r disgyblion a ddewisir anghenion addysgol arbennig, edrychwch ar yr addasiadau sydd wedi'u nodi ar eu cyfer ac eithrio unrhyw ddisgyblion nad ydynt yn addas i sefyll yr asesiad gan ddefnyddio'r meini prawf penodol ar gyfer peidio â chymryd rhan. Dychwelwch y Ffurflen Tracio Disgyblion wedi'i diweddaru i Dîm Cymorth PISA drwy ddull diogel. Bydd y tîm wedyn yn cadarnhau'r rhestr derfynol o ddisgyblion a fydd yn cwblhau asesiad PISA ar ddyddiad y prawf.
Cam 5: Llythyrau cymryd rhan
Bydd Tîm Cymorth PISA yn darparu templedi ar gyfer dau lythyr i Gydlynydd yr Ysgol. Bydd un i hysbysu'r disgyblion ac un i hysbysu eu rhieni/gwarcheidwaid am astudiaeth PISA ac i roi gwybodaeth am ddiogelu data. Gall Cydlynydd yr Ysgol ddosbarthu'r llythyr drwy e-bost neu anfon copïau caled a dylai ddiweddaru'r Ffurflen Tracio Disgyblion os bydd unrhyw rieni/gwarcheidwaid yn gwneud cais i'w plentyn beidio â chymryd rhan. Yn dilyn cyfnod penodol i rieni/gwarcheidwaid ymateb, rhowch wybod i Dîm Cymorth PISA beth yw cyfanswm terfynol y disgyblion y disgwylir iddynt gymryd rhan a rhowch wybod i'w hathrawon dosbarth am ddyddiad ac amser yr asesiad.
Cam 6: Profi TGCh
Gofynnwn i'r ysgol gwblhau rhai gwiriadau TGCh cyn dyddiad y prawf er mwyn sicrhau y gall asesiad PISA fynd rhagddo mewn ffordd mor ddidrafferth â phosibl. Bydd Cydlynydd yr Ysgol yn cael cyfarwyddiadau i'w hanfon ymlaen at Reolwr TGCh yr ysgol. Mae'r rhain yn cynnwys Adnodd Diagnostig i Wirio Parodrwydd yr Ysgol a Gwiriad o'r Llwyfan Asesu, gyda manylion mewngofnodi enghreifftiol i'w defnyddio er mwyn sicrhau y gall y disgyblion gael mynediad i lwyfan y prawf. Bydd yr ysgol hefyd yn cael y cyfle i dynnu sylw at unrhyw faterion neu broblemau cysylltedd posibl ar Ffurflen Gwirio TGCh ar-lein a gaiff ei hadolygu gan Dîm Cymorth PISA.
Cam 7: Holiadur i ysgolion
Gofynnir i'r aelod o Dîm Arwain yr Ysgol neu'r Pennaeth gwblhau holiadur fel rhan o astudiaeth PISA er mwyn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am gyd-destun yr ysgol. Caiff cyfarwyddiadau ar gyfer yr Holiadur i Ysgolion a manylion mewngofnodi eu darparu drwy e-bost, i'w dosbarthu i'r partïon perthnasol.
Cam 8: Paratoi ar gyfer diwrnod y prawf
O leiaf bythefnos cyn dyddiad y prawf, bydd Tîm Cymorth PISA yn cadarnhau enw a chyfeiriad e-bost unrhyw Weinyddwr/Weinyddwyr Prawf a fydd yn ymweld â'r ysgol ar ddyddiad prawf PISA er mwyn helpu i'w gynnal. Prif Weinyddwr y Prawf fydd y person cyswllt i Gydlynydd yr Ysgol drafod y trefniadau ar gyfer diwrnod y prawf, logisteg a phrotocolau diogelu ymlaen llaw. Unwaith y caiff y manylion eu cadarnhau'n derfynol, dylid atgoffa'r disgyblion sy'n cymryd rhan, eu hathrawon a thechnegydd TGCh yr ysgol o leoliad yr asesiad a'r amser dechrau.
Caiff deunyddiau asesu PISA eu hanfon drwy'r post er mwyn i Gydlynydd yr Ysgol gadarnhau bod popeth wedi'i gynnwys ac yn gywir a dylai storio'r deunyddiau mewn man diogel i'w defnyddio ar ddiwrnod y prawf.
Cam 9: Diwrnod y prawf
Ar ddiwrnod astudiaeth PISA, gofynnwn i chi sicrhau bod Cydlynydd yr Ysgol ar gael i gyfarch Gweinyddwr/Gweinyddwyr Prawf PISA pan fydd(ant) yn cyrraedd, mynd gyda'r unigolyn/unigolion i'r ystafell(oedd) a ddefnyddir ac oddi yno, casglu disgyblion o'u gwersi (os bydd angen) a helpu i gadarnhau bod y disgyblion perthnasol yn bresennol.
Dylai'r broses o gynnal yr asesiad a'r holiadur ddilyn yr amserlen gynlluniedig a dylai pob disgybl gael ei dystysgrif ar ôl cwblhau'r broses. Dylid llungopïo'r Ffurflen Tracio Disgyblion, yn cynnwys nodiadau am absenoldebau, a dychwelyd y copi gwreiddiol i Dîm Cymorth PISA.
Cam 10: Ar ôl diwrnod y prawf
Bydd Tîm Cymorth PISA yn anfon Ffurflen Honorariwm ar-lein yn gofyn i'r Rheolwr Cyllid ddarparu manylion banc yr ysgol er mwyn hawlio tâl gweinyddu'r ysgol fel diolch am gymryd rhan. Caiff Arolwg i Gydlynwyr Ysgol ei rannu hefyd er mwyn cynnig cyfle iddynt roi adborth ar eu profiad o PISA.
![](/uk/content/dam/one-dot-com/one-dot-com/uk/microsites/pisa25/AL2031094.jpg)
Diolch i chi am gymryd rhan yn PISA. Rydym yn gwerthfawrogi eich cyfraniad yn fawr ac mae'n cyfrannu at wella polisïau ac arferion addysgol ar draws y byd.