
I Ddisgyblion
Beth yw PISA?

Y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) yw'r astudiaeth ryngwladol fwyaf yn y byd o systemau addysg ac fe'i datblygwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD). Bob tair blynedd, mae PISA yn profi disgyblion 15 oed o bob cwr o'r byd mewn gwyddoniaeth, mathemateg a darllen. Drwy gymryd rhan yn PISA25, rydych yn cyfrannu at wella addysg yn y DU a thu hwnt. Gellir cael rhagor o wybodaeth ar wefan yr OECD ar gyfer PISA.
Beth sy'n digwydd fel rhan o PISA?
Fel rhan o asesiad PISA, bydd angen i chi gwblhau:
• Asesiad rhyngweithiol ar y sgrin sy'n ymdrin â gwyddoniaeth, darllen a mathemateg
• Holiadur cefndir yn holi am eich bywyd, eich ysgol a'ch profiadau dysgu
Beth yw manteision PISA?
Mae cymryd rhan yn PISA yn cynnig amrywiaeth o fanteision i ddisgyblion, ac yn ehangach i addysg yn y DU.
Cyfrannu at astudiaeth sy'n ein helpu i ddeall ein system addysg yn well.
Profiad o gynrychioli Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon mewn astudiaeth ryngwladol.
Cyfle i ymarfer y sgiliau sy'n gysylltiedig ag asesiadau allanol drwy asesiad ar-lein arloesol ‘risg isel’.
Preifatrwydd data a sut rydym yn defnyddio data personol