At ddiben yr ymchwil hon, bydd Llywodraeth Cymru/ Adran Addysg Lloegr/ Adran Addysg Gogledd Iwerddon a'u contractwyr cymeradwy yn cysylltu'r wybodaeth â gwybodaeth arall sydd gan Lywodraeth Cymru/ Adran Addysg Lloegr/ Adran Addysg Gogledd Iwerddon eisoes (megis ar y Gronfa Ddata Genedlaethol o Ddisgyblion) neu y gellir cael gafael arni'n gyfreithlon o ffynonellau eraill. Diben hyn yw osgoi gofyn i gyfranogwyr dro ar ôl tro am wybodaeth sydd gennym eisoes a gallu dadansoddi manteision tymor hwy dysgu cynnar. Mae hysbysiadau preifatrwydd llawn ar gael gan ddefnyddio'r dolenni isod.
Hoffem ddiolch i bob ysgol a disgybl sy'n cymryd rhan am eu cyfraniad at y project pwysig hwn. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau am unrhyw agwedd ar yr astudiaeth, mae croeso i chi gysylltu â Thîm Cymorth PISA.