Disgwyliadau Uchel: manteision profiad PISA
by
Os yw eich ysgol yn cymryd rhan yn Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA ) yr OECD, yna efallai eich bod yn meddwl tybed beth gallwch ei ddisgwyl o'r profiad? Fel y dywedwn ym Mlog 1 o'r gyfres hon, gall PISA ein helpu i rannu dealltwriaeth o dueddiadau a newidiadau ym maes addysg ledled y byd: darlun cyfannol o'r ffordd y mae addasiadau dysgu yn digwydd, wrth iddynt ddigwydd.
Mae cymryd rhan yn PISA yn cynnwys pwyntiau ffocws ehangach i ysgolion hefyd, gan helpu athrawon a chymunedau ysgolion i ddeall a chefnogi llesiant disgyblion; ac mae un arall yn canolbwyntio ar arloesedd mewn ymarfer asesu, gan gynnwys symud i brofion cyfrifiadurol. Mae'r ddau bwynt ffocws hyn yn cynnig cyfleoedd i gefnogi disgyblion wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau personol a thechnolegol felly maent yn ddisgwyliadau pwysig y dylai pob un ohonom eu hystyried fel rhan o brofiad PISA 2025.
Mae ymchwil yn dangos bod sefyll profion, yn enwedig profion lle mae llawer yn y fantol fel TGAU a Safon Uwch, yn peri cryn dipyn o straen i rai disgyblion, yn ddealladwy. Fodd bynnag, rydym hefyd yn gwybod bod paratoi'n dda yn helpu i leddfu'r pryderon hyn. Mae ymarfer profion yn ffordd dda o baratoi ac mae gan PISA rôl i'w chwarae o ran cynnig rhywbeth unigryw – prawf lle nad oes angen ennill gradd benodol. Mae profion PISA yn herio disgyblion i feddwl mewn ffyrdd gwahanol ac yn rhoi profiad uniongyrchol iddynt o sefyll prawf sy'n ychwanegu at eu harbenigedd o ran arholiadau. Mae'r nod o gymhwyso yr hyn y maent yn ei wybod yn gyffredinol er mwyn datrys problemau mewn senarios bywyd go iawn yn rhan bwysig o PISA, a thrwy hynny, feithrin sgiliau trosglwyddadwy perthnasol ar gyfer y dyfodol. Awgrymwn y dylai'r ysgolion sy'n cymryd rhan siarad â disgyblion am brofion PISA yn y ffordd hon fel y gallant weld gwerth y rhaglen o ran sut y gallent gymhwyso'r hyn y maent yn ei wybod mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd. Gellir defnyddio'r profiadau hyn i gynnal asesiad ffurfiannol o allu disgyblion i sefyll profion, gan eu galluogi nhw i fyfyrio ar yr hyn sy'n gymwys i brofiadau sefyll profion yn y dyfodol, rhoi hwb i'w hunanhyder a gwella llesiant cyffredinol o ran teimlo'n barod fel dysgwyr.
Agwedd ychwanegol o ran gwella sgiliau disgyblion yw'r profiad o sefyll profion cyfrifiadurol ac ar-lein a geir drwy gymryd rhan yn PISA 2025. Ym maes asesu yn fyd-eang, mae'r newid i ymarfer asesu cyfrifiadurol ac ar-lein wedi datblygu'n sylweddol dros y degawd diwethaf ac mae'n debygol iawn y gallai llawer o arholiadau gael eu cynnal ar sgrin, naill ai'n rhannol neu'n gyfan gwbl, yn y dyfodol. Yn y rhan fwyaf o ysgolion, ychydig iawn o brofiad sydd gan ddisgyblion uwchradd o sefyll profion ar gyfrifiaduron ac, eto, mae hyn yn rhywbeth y mae angen iddynt fod yn gyfarwydd ag ef ar gyfer profiadau pwysig wrth sefyll profion yn y dyfodol, fel y prawf theori gyrru, neu arholiadau yn y brifysgol ac ati. Bydd disgyblion mewn ysgolion sy'n cymryd rhan yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn sefyll dau brawf un awr o hyd ar sgrin ar gyfer PISA 2025. Mae hyn yn rhoi'r cyfle i'ch disgyblion sefyll prawf arloesol, gan wybod bod y profiad hwn yn ddefnyddiol o ystyried y ffaith y caiff mwy o asesiadau ar-lein ac ar sgrîn eu defnyddio mewn sawl agwedd ar eu bywydau.
Mae gosod y disgwyliadau cywir ar gyfer disgyblion sy'n cymryd rhan yn PISA yn bwysig ac, yn hytrach na chanolbwyntio ar y canlyniad terfynol, dyma gyfle i drafod y broses asesu â nhw. Mae disgyblion sy'n deall ymarfer asesu, sy'n datblygu llythrennedd o brofiadau sefyll profion yn fwy tebygol o fod yn ddysgwyr hyderus a dibynnu llai ar y syniad bod gradd yn cynnig crynodeb ohonynt fel dysgwr. Gyda'ch cymorth, gall disgyblion elwa ar fanteision cymryd rhan yn PISA a gwybod bod eu cyfranogiad yn ein helpu ni i ddeall sut y gallant gymhwyso eu dysgu mewn sefyllfaoedd pob dydd.
Awdur: Dr Mary Richardson, Athro Asesu Addysg ac
Arweinydd y Rhaglen Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Addysg
Athrofa Addysg UCL