Pam mae PISA 2025 yn bwysig i ysgolion
by
Nid dim ond prawf arall i ysgolion sy'n digwydd bob tair blynedd yw Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) yr OECD. Mae gan PISA nod addysgol dilys: nid yn unig archwilio'r hyn y mae disgyblion 15 oed yn ei wybod mewn gwyddoniaeth, darllen a mathemateg tuag at ddiwedd eu cyfnod mewn addysg orfodol, ond yn hanfodol, beth y gallant ei wneud â'r wybodaeth honno. Mae'r data a gaiff eu casglu fel rhan o astudiaethau PISA (drwy brofion ac arolygon ar ffurf holiadur) yn cynnig cyfle i'r gwledydd sy'n cymryd rhan ddysgu o bolisïau ac arferion mewn gwledydd eraill ac i fonitro newidiadau a thueddiadau mewn addysg dros amser yn y tri maes a restrir uchod. Er enghraifft, gall data o'r fath ein helpu i ddeall effaith pandemig COVID-19 ar ddysgu a chyrhaeddiad; a sut mae disgyblion yn defnyddio adnoddau digidol.
Fel ymchwilydd sy'n rhan o un o dimau ymchwil cenedlaethol PISA 2025 (yn UCL a Phrifysgol Rhydychen), rwy'n awyddus i sicrhau y caiff yr ysgolion sy'n cymryd rhan, eu disgyblion a'u hathrawon fudd o gael eu cynnwys yn yr astudiaeth ryngwladol hon. Byddwn yn gweithio gydag arbenigwyr ym maes addysg gwyddoniaeth er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn dysgu o'r canlyniadau ac er mwyn ystyried sut y gallwn ddefnyddio unrhyw ganfyddiadau defnyddiol o fewn arferion a pholisïau cenedlaethol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. I'r rheini sy'n cymryd rhan ym Mhrif Astudiaeth PISA (rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2025), bydd eich ysgol yn cael adroddiad am eich cyfranogiad yn PISA. Mae cynlluniau ar y gweill gennym i drefnu digwyddiadau yn y dyfodol er mwyn i ysgolion rannu'r canlyniadau a thrafod beth mae PISA 2025 wedi ei olygu i chi a'ch ysgol.
Caiff y profion eu cynnal ar sgrin a bydd pob ysgol sy'n cymryd rhan yn cael adroddiad yn crynhoi'r canfyddiadau allweddol yn deillio o'r data a gasglwyd, gan ganolbwyntio'n benodol ar berfformiad, llesiant a phrofiadau disgyblion a'u defnydd o ddyfeisiau digidol. Yn ystod pob cylch, rhoddir pwyslais ychwanegol ar un o'r tri maes ac ar gyfer PISA 2025, mae'r ffocws ar wyddoniaeth – sy'n golygu y bydd cyfran uwch o'r cwestiynau yn targedu'r maes hwn o'r cwricwlwm.
Rydym yn ymwybodol bod ysgolion yn gwerthfawrogi cael gwybodaeth am ddysgu disgyblion sy'n mynd y tu hwnt i ddim ond gradd, a gall cymryd rhan yn PISA ategu hyn – yn ogystal â mesur gwybodaeth disgyblion am ffeithiau, mae cwestiynau'r prawf hefyd yn cynnig cyfleoedd i ddangos i ba raddau y gall disgyblion ddefnyddio eu gwybodaeth a'u sgiliau datrys problemau yn y byd go iawn.
Bydd y ffocws ar wyddoniaeth yn PISA 2025 yn hwyluso cyfleoedd i ystyried prosesau addysgu a dysgu gwyddoniaeth a'r pwnc mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan o bosibl holi cwestiynau fel:
- Ydyn ni'n addysgu sgiliau gwyddoniaeth sy'n bwysig?
- A yw pobl ifanc yn meddu ar y ddealltwriaeth wyddonol sydd ei hangen i ymdrin â'r materion amgylcheddol dybryd sy'n effeithio ar y byd?
- Ydyn ni'n darparu addysg gwyddoniaeth sy'n helpu pobl ifanc i wybod sut i weithredu mewn perthynas â'r materion sy'n effeithio arnynt?
Caiff canlyniadau pob gwlad eu cyflwyno mewn adroddiad cenedlaethol, ac rydym yn cynnwys cymariaethau â chanlyniadau rhyngwladol hefyd. Disgwylir i'r adroddiadau cenedlaethol ar gyfer PISA 2022 gael eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr 2023 a gallwch ddarllen adroddiadau blaenorol ar gyfer Lloegr, Gogledd Iwerddon a Chymru (gan gynnwys crynodebau) ar-lein.
Yr hyn sy'n gwneud PISA yn arbennig, ac yn bwysig i ysgolion, yw bod y broses o gymryd rhan hefyd yn cynnig cyfle i ddisgyblion a'u penaethiaid roi adborth am eu profiadau addysgol. Mae arolygon ar ffurf holiadur yn rhan allweddol o'r broses o gymryd rhan yn PISA, ac maent yn gofyn i ymatebwyr fynegi eu barn am eu haddysg, y cwricwlwm a'u dyheadau ar gyfer y dyfodol; mae hyn yn rhoi llais iddynt fel rhan o farn fyd-eang ar eu profiadau addysgol.
Drwy gymryd rhan yn PISA, bydd eich ysgol yn gwneud cyfraniad unigryw a gwerthfawr at wella dealltwriaeth o faterion addysgol allweddol, fel ansawdd a thegwch deilliannau dysgu, agweddau at ddysgu a'r ffactorau sy'n cymell eich disgyblion i ymgysylltu â'u dysgu. Mae canlyniadau PISA hefyd yn cynnig mwy na dim ond canlyniadau profion ac arolygon ar ffurf holiadur wedi'u casglu ar adeg benodol; mae gwaith ymchwil yn dangos bod disgyblion sy'n cael canlyniadau da ym mhrofion PISA yn fwy tebygol o symud ymlaen i gyflawni lefelau addysg uwch yn eu hugeiniau a thu hwnt. Mae deall newidiadau ac effeithiau ym maes addysg yn broses gronnol ac yn cymryd amser – felly, mae'r data rheolaidd a gaiff eu casglu yn ystod cylchoedd PISA yn ein helpu i ddatblygu darluniau mwy cyfoethog o ddysgu a'i rôl ym mywydau pobl ifanc. Mae'r data a gaiff eu casglu hefyd yn golygu y gellir datblygu'r cwricwlwm, adnoddau'r cwricwlwm ac arferion addysgu er mwyn canolbwyntio ar feysydd dysgu penodol y mae angen eu datblygu.
Awdur: Dr Mary Richardson, Athro Asesu Addysg ac
Arweinydd y Rhaglen Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Addysg
Athrofa Addysg UCL